Gŵyl Tirweddau Ffydd

bob dydd ym mis Mehefin 2021

Ymunwch â Gŵyl Tirweddau Ffydd ym mis Mehefin – gallwch ddilyn yr ŵyl ar-lein neu gymryd rhan yn eich cymuned. Bydd holl weithgareddau’r ŵyl yn Covid-19 ddiogel. Os bydd cyfyngiadau iechyd gan y llywodraeth, byddwn yn dal i ffrydio a phostio am yr ŵyl ar-lein. Os bydd modd i ni gyfarfod ac ymweld â llefydd a phobl ryfeddol mewn ffordd ddiogel – yna dyna wnawn ni!!! Diogelu a dathlu yw’n harwyddeiriau!

Byddwn yn cyhoeddi eitemau a gweithgareddau’r ŵyl o nawr hyd fis Mehefin. Ac mae amser o hyd i chi feddwl sut hoffech chi gymryd rhan. Mae digon o le ar gyfer eich hanesion lleol a’ch cymuned chi. Rhowch wybod i ni sut hoffech chi ddathlu tirweddau ffydd. Fe wnawn eich gweithgaredd chi yn rhan o’r ŵyl!

Dyma fideo o’r hyn y mae ein traddodiadau ffydd arbennig yn ei gynnig:

Chi sydd i benderfynu beth fydd yn yr ŵyl! Ymunwch gyda ni. Dewch i ddathlu gyda’ch hanesion chi…

PEDAIR TAITH

I roi’r ŵyl ar ben y ffordd, byddwn yn mynd ar bedair taith ar draws y dirwedd. Os bydd yn ddiogel, edrychwn ymlaen at gyfarfod â chi a’ch cymuned ar hyd y daith. Os bydd cyfyngiadau teithio, yna fe fyddwn yn darlledu’r teithiau ar y we fel bod modd i chi gymryd rhan o hyd.

Taith 1. Dewi Sant. Byddwn yn cychwyn yn Llanddewi Brefi. Dewi yw Nawddsant Cymru, a byddwn yn teithio am rai dyddiau dros fynyddoedd De Cymru i Lanilltud Fawr, ble bu Dewi, yn ôl y sôn, yn astudio gyda’r athro disglair Illtud.

Taith 2. Sant Padrig. Cymro oedd Sant Padrig! Fe’i herwgipiwyd gan fôr-ladron a’i gymryd yn gaethwas i Iwerddon. Mae gan gymuned Banwen dreftadaeth naturiol brydferth a ffordd Rufeinig yn mynd drwy ganol y pentref. https://www.landscapesoffaith.org/st-patrick-was-from-wales/

Taith 3. Bryste i Lanilltud Fawr. Byddwn yn cychwyn ym Mryste ac yn dilyn taith gyntaf John Wesley i Gymru o’i bencadlys yn y New Rooms, Bryste. Mae’r daith yn pasio tref ac amffitheatr Rufeinig Caerllion ble roedd Julius ac Aaron ymysg y merthyron Cristnogol cyntaf ym Mhrydain. Byddwn wedyn yn mynd ymlaen i’r brifddinas ar drywydd hanesion y traddodiadau ffydd sydd wedi dod i Gymru o bedwar ban byd, gan archwilio’r dirwedd ffydd yn y ddinas.

Taith 4. Aberhonddu i Lantrisant (trwy Ferthyr). Mae’r Brenin Brychan yn ffigur hynafol yn y niwl rhywle rhwng hanes a chwedloniaeth. Mae Sir Frycheiniog yn dwyn ei enw o hyd, a thref Aberhonddu yn Saesneg hefyd. Gwyddwn fwy am ei blant niferus. Fe ddaethon nhw’n rhan o’r genhedlaeth gyntaf o seintiau Celtaidd, ac mae eu henwau’n britho tirwedd ac aneddiadau De Cymru. Byddwn yn dysgu sut bu Tudful farw ym Merthyr Tudful a sut roedd trais yn dal i fygwth gweddïam am heddwch yng nghwm Taf 1300 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

Yn ogystal, bydd llawer mwy o weithgareddau a hanesion i’w darganfod. Byddwn yn eu hychwanegu at y rhaglen dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf tan fis Mehefin.

Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at siarad gyda chi ac at eich cyfraniad. Mae hon yn ŵyl i’r holl draddodiadau ffydd – mae croeso i bawb.

Cofion gorau,

Richard

‹ Back to Blog

Follow us on instagram