Bydd Gŵyl Tirweddau Ffydd yn digwydd bob dydd ym mis Mehefin 2021 yn Ne Cymru

Mae ein bryniau, ein cymoedd a’n gwastadeddau arfordirol yn doreithiog eu treftadaeth ffydd gyfoethog, ac eto mae llawer o’r straeon, safleoedd a chwedlau wedi eu colli neu eu cuddio.

Mae Gŵyl Tirweddau Ffydd ym mis Mehefin yn helfa drysor gymunedol i ddathlu’n traddodiadau ffydd byd-eang mewn Cristnogaeth, Islam, Iddewiaeth, Hindŵaeth, Bwdistiaeth, Paganiaeth ac yn safleoedd cynhanesyddol de Cymru.

Bydd yr holl weithgareddau yn Covid-19 ddiogel, ac os bydd cyfyngiadau gan y Llywodraeth, byddwn yn cynnal llawer o elfennau’r ŵyl ar y we.

Byddwn ni’n dod atoch chi i ddarganfod y trysor gyda chi, yn eich ardal neu’ch cymuned chi. Rydym yn hapus i ddod am dro, cynnal sgyrsiau, cymryd rhan mewn cyngherddau, sesiynau galw heibio, mynychu ysgolion a digwyddiadau

Bydden ni wrth ein bodd i chi gymryd rhan! Awgrymwch fannau i’w fforio, straeon heb eu hadrodd, pobl a anghofiwyd…

Mae’r prosiect yn cael ei redeg gan y fenter hwyluso diwylliannol Coleridge in Wales Cyf a gafodd ei sefydlu gan y canwr Richard Parry. Mae ganddyn nhw brofiad eang o drefnu digwyddiadau a phrosiectau dan arweiniad y gymuned gan gynnwys Gŵyl 80 diwrnod Coleridge yng Nghymru yn 2016, a chynhyrchu sioe agoriadol Carnifal y Môr ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Chaerdydd yn 2018. http://www.worldclassfacilitation.org

Cysylltwch â ni yn: [email protected]

CYMERWCH RAN YN YR HELFA DRYSOR

Beth yw’r trysorau yn y dirwedd ffydd yn eich bro chi?

Mae’r ŵyl yn helfa drysor gymunedol. Rhowch wybod i ni am y straeon, y bobl a’r dreftadaeth yn eich ardal chi, a byddwn ni’n dod allan i’w trafod, eu fforio a’u dathlu gyda chi.

Rydyn ni’n lansio gwefan newydd ar gyfer ymwelwyr rhyngwladol a chymunedau lleol er mwyn i bawb gael fforio a mwynhau tirweddau ffydd anhygoel ac amrywiol De Cymru.

Mae’n Amser Stori!

Rydyn ni’n eich gwahodd chi yn unigolion, cymunedau, grwpiau, ysgolion, pentrefi, sefydliadau ac Awdurdodau Lleol i gymryd rhan ac i ymuno â’r helfa drysor.

Cymerwch Ran

DE CYMRU

Mae Coleridge in Wales yn gweithio mewn partneriaeth ag Esgobaeth Llandaf ar y prosiect yma.

Mae’r prosiect wedi derbyn arian drwy’r Gronfa Arloesi Cynhyrchion Twristiaeth (TPIF) ac mae’n cael ei gefnogi gan Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygiad Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Llywodraeth Cymru. Nod y Gronfa yw annog syniadau cynnyrch arloesol newydd drwy weithio mewn partneriaeth er mwyn cael effaith ehangach a denu mwy o ymwelwyr.

Mae’n bleser mawr gan brosiect Tirweddau Ffydd fod wedi derbyn arian oddi wrth Allchurches Trust.

AR Y CYD Â

DILYNWCH EIN INSTAGRAM