Beth yw’r trysorau yn y dirwedd ffydd yn eich bro chi?

Mae’r ŵyl yn helfa drysor gymunedol. Rhowch wybod i ni am y straeon, y bobl a’r dreftadaeth yn eich ardal chi, a byddwn ni’n dod allan i’w trafod, eu fforio a’u dathlu gyda chi.

Mae’n Amser Stori!

Rydyn ni’n lansio gwefan newydd ar gyfer ymwelwyr rhyngwladol a chymunedau lleol er mwyn i bawb gael fforio a mwynhau tirweddau ffydd anhygoel ac amrywiol De Cymru.

Rydyn ni’n eich gwahodd chi yn unigolion, cymunedau, grwpiau, ysgolion, pentrefi, sefydliadau ac Awdurdodau Lleol i gymryd rhan ac i ymuno â’r helfa drysor.

Cysylltwch â ni trwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Anfon e-bost atom.

[email protected]

RICHARD PARRY

Mae Richard yn ganwr. Ef hefyd yw sylfaenydd a chyfarwyddwr creadigol Coleridge in Wales, sefydliad sy’n hyrwyddo pwysigrwydd bywyd diwylliannol Cymru yng nghyd-destun rhyngwladol diwylliant, economi a chynaladwyedd.

Mae Richard wedi bod yn siaradwr gwadd mewn cynadleddau academaidd rhyngwladol ar ddiwylliant a’r celfyddydau. Mae wedi rhoi anerchiad ym Mhrifysgol Rhydychen ar athroniaeth crefydd, ac wedi cynnull cynhadledd/seminarau ar ddiwylliant, athroniaeth a chyfranogiad i Brifysgol Caergrawnt a phrifysgolion Cymru.

Yn 2017 arweiniodd Richard daith cerdded tair wythnos ar gyfer y mudiad amgylcheddol rhyngwladol blaenllaw Prosiect Eden, gan gerdded o Swydd Efrog drwy Gymru, a chanu i gymunedau yn y dirwedd wrth iddo deithio. Dathlodd y daith cerdded hon Gymru a phwysigrwydd cyfranogiad cymunedol i lesiant a threchu’r heriau amgylcheddol sy’n wynebu diwylliant dynol. Mae Richard yn byw yn Ne Cymru.

DILYNWCH EIN INSTAGRAM